Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Gillian yn Fwrsar eff eithlon sy’n ymwneud â phob agwedd ar waith yr ysgol ac mae bob amser yn barod i roi o’i hamser. Mae hi’n berson treiddgar iawn ac yn ogystal â gwneud gwaith gweinyddol yr ysgol, mae hefyd yn barod i helpu’r staff â materion personol ac mae hi’n llawn cydymdeimlad gyda’i chlust barod. 

Nid oes tasg sy’n rhy fach nac yn rhy fawr iddi ac mae wrthi’n barhaus yn chwilio am atebion creadigol i unrhyw broblemau. Gillian yw’r person i droi ati nid yn unig o fewn yr ysgol ond gyda’r awdurdod lleol. Mae hi’n aelod poblogaidd ac ymroddedig o’r ysgol ac yn un sy’n gweithio’n ddifl ino i helpu’r disgyblion a’r staff .