Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae’r bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent a Chymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn cael ei nodweddu gan ymddiriedaeth lwyr yn arferion gweithio’r naill a’r llall, sy’n galluogi’r partneriaid i ddatblygu gweithgareddau a thechnegau dysgu arloesol a chreadigol. 

Mae’r disgyblion sy’n rhan o’r bartneriaeth yn cael llais yn y ff ordd maent yn dysgu ac o ganlyniad maent yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i ddatblygu ac i ymgysylltu’n dda â’u dysgu.

Mae’r lefelau uchel o ymddiriedaeth, parch tuag at ei gilydd a chydweledigaeth rhwng y gwasanaeth ieuenctid a’r ysgol yn golygu bod hyn yn bosibl. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn dangos sut y gall gweithwyr proff esiynol ymroddedig a gofalgar, mewn amodau sy’n seiliedig ar bartneriaeth, ysbrydoli a helpu pobl ifanc i dyfu.