Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Rhian yn berson ysbrydoledig, diymhongar ac yn un sy’n hawdd siarad â hi. O ganlyniad i’w gweledigaeth a’i gallu greddfol i arwain ac i ysbrydoli eraill, mae hi wedi cyrraedd brig ei phroff esiwn ar ôl 35 o fl ynyddoedd, gan dreulio 30 ohonynt yn yr un ysgol. 

Mae wedi meithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd o fewn cymunedau yn ystod ei blynyddoedd o wasanaeth, gyda rhieni a chydweithwyr yn disgrifi o Rhian fel ffrind. Mae Rhian yn gallu gweld potensial pob aelod o staff  ac mae’n rhoi cyfl eoedd iddynt i ddisgleirio.

Nid yw methiant yn opsiwn i unrhyw blentyn ac mae hi wrthi’n ddi-baid yn herio ac yn ysbrydoli ei disgyblion.