Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae ymrwymiad, angerdd ac ymroddiad Dyfed i ddefnyddio’r Gymraeg heb ei ail. Mae ei angerdd am ddysgu a'i gariad at yr iaith yn ei wneud yn arweinydd gwirioneddol ysbrydoledig sydd wedi trawsnewid y ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu yn yr ysgol. Mae'n trin pawb yn deg ac mae bob amser yn ceisio helpu a chefnogi'r rhai nad ydyn nhw mor hygred ag eraill. Mae'n cymell ac yn ysbrydoli ei ddisgyblion a'i staff i ddefnyddio eu Cymraeg lle bynnag y bo modd ac mae ei frwdfrydedd dros yr iaith yn ddiamheuol. Mae ei arddull cyflwyno llyfn yn ysbrydoli hyder, ymddiriedaeth, twf a chynnydd ac yn meithrin cariad at yr Iaith Gymraeg.