Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae brwdfrydedd ac ymrwymiad Hannah i addysgu yn dod â gwên i wynebau pawb. Mae ei hegni a'i hymroddiad i'r proffesiwn yn mynd y tu hwnt i bob galw wrth ddarparu cyfleoedd dysgu pwrpasol i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso sgiliau allweddol mewn amgylchedd wedi'i feithrin lle maent yn teimlo'n ddiogel, yn hapus ac wedi'u cynnwys yn eu dysgu. Mae hi'n cipio dychymyg ac yn ysgogi agweddau dysgu cadarnhaol i bawb o'i chwmpas ac mae'n arweinydd drwy esiampl  ragorol sy'n magu hyder ymhlith eraill, gan eu galluogi i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u harfogi i roi cynnig arni a llwyddo. Nid yw ei hymagwedd yn ddim llai nag ysbrydoledig, wrth ysgogi staff a thanio angerdd am addysgu.