Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Jonathan yn athro ysbrydoledig sy'n llwyddo i ennyn brwdfrydedd y disgyblion y mae'n eu dysgu ac mae bob amser wedi ceisio adnabod pob disgybl fel unigolyn er mwyn deall ei gryfderau a'i wendidau a darparu'r gefnogaeth orau. Mae bob amser yn barod i roi amser i unrhyw un sy'n gofyn cwestiynau ac yn ysbrydoli ei ddisgyblion i anelu'n uchel a theimlo llwyddiant. Mae'n rhoi ei ddisgyblion yn gyntaf ac yn creu awyrgylch gonest a hapus mewn lle a all fod yn flinedig ac yn llawn straen. Golygai ei bwnc dysgu popeth iddo ac mae’n trosglwyddo ei frwdfrydedd heintus i bob plentyn y mae'n ei ddysgu.