Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Rebecca yn athrawes garedig, addfwyn a chydwybodol sy’n rhoi ei chalon a’i henaid i gynllunio a pharatoi gwersi o ansawdd uchel gydag ennyn diddordeb a hapusrwydd disgyblion wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud. Mae ganddi wir dosturi tuag at yr holl ddisgyblion sydd dan ei gofal ac mae'n rhoi ymdrech fawr yn ei gweithgareddau a'i thasgau allgyrsiol i sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol gyda gwên ar ei wyneb. Heb os nac oni bai, mae hi'n gallu cynnwys pob plentyn yn ei dosbarth trwy barchu eu ffiniau, eu gwahaniaethau a'u harbenigeddau a chynorthwyo i fagu eu hyder i'w helpu i gyrraedd eu llawn botensial.