Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae gan Teresa ddealltwriaeth ragorol o anghenion a dyheadau pob disgybl ac mae'n gweithio gyda nhw fel unigolion i annog annibyniaeth ynddynt ac ymgysylltu â nhw ar lefel bwrpasol ac ystyrlon. Mae hi'n meithrin perthnasoedd yn gyflym ac yn mynd o’i wirfodd i sicrhau cysondeb a gofal a chefnogaeth eithriadol i ddysgwyr trwy gydol eu hamser yn yr ysgol, gan ddarparu canmoliaeth ac anogaeth er mwyn iddynt ffynnu. Mae hi'n arweinydd dosbarth ac arweinydd drwy esiampl yn ogystal â bod yn chwaraewr tîm, aelod estynedig o'r teulu ac yn glust i wrando ar y disgyblion a staff fel ei gilydd.