Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Chris Gledhill: Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, Conwy

Mae Chris yn creu perthnasoedd cryf, gonest a phroffesiynol gyda dysgwyr. Mae'n ymdrechu i wneud i bob person ifanc deimlo'n bositif amdanynt eu hunain, ac eraill trwy ei ymrwymiad a'i egni.

Mae Chris yn addasu ei sesiynau i gyd-fynd ag anghenion a sefyllfaoedd ysgolion a dysgwyr. Mae ei allu i ddangos cynhesrwydd a gofal i bob dysgwr yn amlwg.

Mae ganddo agwedd gadarnhaol, yn torchi llewys ac mae'n edrych yn barhaus ar ffyrdd o wella darpariaeth gydag ysgolion a sefydliadau proffesiynol eraill. Mae Chris yn darparu arweinyddiaeth effeithiol a’r cyntaf bob amser i gynnig ei gefnogaeth neu ei amser i eraill.