Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Elizabeth Hamlin: Ysgol Tref Aberdâr yr Eglwys yng Nghymru, Aberdâr

Mae Elizabeth yn arwain trwy esiampl ac yn fodel rôl ragorol. Mae ganddi egni a brwdfrydedd dros ddysgu sydd wedi trawsnewid y defnydd o’r Gymraeg yn ei hysgol, lle mae wedi gwreiddio ym mywyd ac ymarfer bob dydd.

Mae hi wedi creu diwylliant o ddathlu lle mae athrawon yn hybu dealltwriaeth disgyblion o ddiwylliant a hanes Cymru.

Mae Elizabeth yn gwneud amser i gefnogi staff, rhieni, y gymuned, ac ysgolion eraill i hybu’r defnydd o’r Gymraeg, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol.