Holly Gordon
Enillydd
Holly Gordon: Ysgol Arbennig ASD Bryn Derw, Casnewydd
Mae Holly yn ysbrydoliaeth ac yn fentor i staff eraill. Mae’n gweithio’n hynod o galed i gysylltu â phob disgybl y mae’n ei addysgu ac mae’n deall eu hanghenion dysgu ychwanegol penodol iawn.
Mae hi’n ymroddedig i gynllunio profiadau dysgu o amgylch pob disgybl, ac o fewn dau fis o ddechrau ei rôl yn yr ysgol wedi trawsnewid ei dosbarth o 13 o fyfyrwyr.
Mae Holly wedi adeiladu perthynas werthfawr gyda rhieni ei dosbarth, gan ddarparu cefnogaeth ragorol i deuluoedd. I unigolyn mor gynnar yn eu gyrfa mae arwain tîm mor fawr yn wirioneddol ragorol.