Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Ifan Tomos Jenkins: Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy

Ifan yw’r math o athro sydd ei angen yn y proffesiwn hwn i ysbrydoli disgyblion a’u hysgogi i anelu’n uchel. Mae’n gweithredu’n angerddol i sicrhau bod pob disgybl yn ei ofal yn llwyddo yn eu sgiliau rhifedd a llythrennedd.

Y tu ôl i bob gwers mae cynllunio a pharatoi gofalus Ifan, gyda phwyslais clir ar fwynhau mathemateg.

Mae ganddo dalent arweinyddiaeth glir ac mae'n dangos ymroddiad llwyr a pharhaus i'w ddysgu proffesiynol, yn barod i arloesi gyda thechnolegau newydd er budd ei ddysgwyr.