Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Iona Llŷr: Gwasanaethau Addysg a Phlant - Cyngor Sir Gâr

Mae Iona yn cydlynu ac yn ysbrydoli dros 100 o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg. Mae hi’n swyno disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg nid yn unig yn y dosbarth, ond hefyd yn sicrhau defnydd ohoni mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.

Mae’n arwain trwy esiampl ac yn meddwl y tu allan i’r bocs, gan ddefnyddio strategaethau blaengar i dynnu rhieni a disgyblion fel ei gilydd at fanteision addysg ddwyieithog.

Mae Iona wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws yr awdurdod lleol, gan ennyn hyder dysgwyr ac athrawon Cymraeg ar bob lefel. Mae ei gallu i arwain ac arloesi yn galluogi ei thîm i weithredu polisïau iaith yr ysgol a ‘Chynllun y Gymraeg mewn Addysg’ Sir Gaerfyrddin yn llwyddiannus.