Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Kate Jones: Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy

Mae Kate yn athrawes arbennig, gydag agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd heintus dros ei phwnc. Mae hi’n addasu’n barhaus ac yn creu syniadau newydd i roi’r profiad dysgu gorau posibl i’w disgyblion, gan ysgogi dychymyg a sbarduno syniadau.

Mae’n ddylanwad cadarnhaol ar aelodau ei hadran, ac mae ei harweinyddiaeth ragorol yn cael ei chydnabod gan ei chydweithwyr ar draws y rhanbarth.

Mae Kate yn hyrwyddo ei hun fel ‘Dysgwr Oes’ ac mae’n dilyn gradd meistr mewn Arweinyddiaeth Addysgol.