Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Laura Buffee: Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd, Hwlffordd

Mae Laura yn cefnogi dysgwyr i'w helpu i gyflawni eu gorau. Mae'n parchu ei disgyblion, gan greu amgylchedd lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu deall a'u clywed. Mae Laura yn mynd gam ymhellach fel athrawes yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd.

Mae hi’n fentor cefnogol i lawer, gan gefnogi disgyblion gyda’u ceisiadau prifysgol a’u hannog i wneud penderfyniadau bywyd cadarnhaol y tu hwnt i’r chweched dosbarth.

Mae Laura yn graig i gynifer o ddisgyblion yn ystod cyfnodau cythryblus personol ac academaidd, ac mae ei gwaith caled yn cael ei werthfawrogi’n fawr ymhlith y rhai y mae’n eu cefnogi gyda gofal mor eithriadol.