Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Lee Arthur: Ysgol Gynradd Llanharan, Pont-y-clun

Mae Lee yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob disgybl yn cael y dechrau gorau posibl i’w fywyd ysgol. Mae ganddo'r math o angerdd, brwdfrydedd, a sgiliau na allwch chi eu dysgu o lyfr. Mae Lee yn gweld pob man fel cyfle dysgu, ac mae ei ddosbarth yn aml i'w weld yn dysgu'n weithredol mewn mannau awyr agored.

Gellir dod o hyd iddo hefyd yn codi ei gitâr ac yn canu hwiangerddi a chaneuon Cymraeg i'w ddosbarth.

Mae cydweithwyr a rhieni yn ymddiried yn Lee yn ei ddull brwdfrydig o ddysgu, ac mae’n gweithio’n galed i godi safonau addysgu a dysgu yn barhaus.