Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Nigel Bowie: Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg

Mae Nigel yn fodel rôl eithriadol i bobl ifanc ac mae bob amser yn ceisio dod â'r gorau allan ohonynt. Mae’n frwd dros sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn ffordd y byddant yn ymgysylltu ag ef ac sy’n diwallu eu hanghenion.

Lle mae dysgwyr wedi ymddieithrio o addysg, mae Nigel wedi eu grymuso i adnabod eu sgiliau a’u cryfderau, gan ddarparu arweiniad a chymorth sydd wedi arwain at well presenoldeb, iechyd, llesiant a chyrhaeddiad.

Mae ei brofiad o weithio’n agos gyda phobl ifanc wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddarparu sesiynau pwrpasol i ddysgwyr. Mae wedi trawsnewid bywydau cymaint o ddysgwyr bregus a rhoi cyfle iddynt lwyddo.