Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Helen yn cymryd rhan ym mhopeth sy’n digwydd yn ei hysgol gynradd. Mae’n meddwl am ffyrdd arloesol i ariannu’r gofynion parhaus am well technoleg.

Mae Helen yn berson agos atoch, sy’n meddwl am y dyfodol ac sy’n gallu edrych ar bethau o bob safbwynt. Cafodd ei disgrifio fel y glud sy’n dal yr ysgol wrth ei gilydd. Mae wedi cyflwyno systemau ar-lein a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol i wneud yn siŵr bod rhieni’n gwybod am bopeth sy’n digwydd yn yr ysgol.

Mae Helen yn helpu gweddill y staff ac mae rhai wedi’u hargyhoeddi bod ganddi ffon hud sy’n eu helpu i gyflawni popeth. Mae’n broffesiynol ac mae ei thraed yn gadarn ar y ddaear ac mae ganddi berthynas iach a disgyblion a rhieni.