Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

{"preview_thumbnail":"/sites/default/files/styles/video_embed_wysiwyg_preview/public/video_thumbnails/F9AR2ofP5_o.jpg?itok=Fly8RSYA","video_url":"https://youtu.be/F9AR2ofP5_o","settings":{"responsive":1,"width":"854","height":"480","autoplay":0},"settings_summary":["Embedded Video (Responsive)."]}

Mae Hollie yn boblogaidd drwy’r ysgol ac mae ganddi berthynas waith bositif a’i chydweithwyr. Mae ei hystafell ddosbarth yn un sy’n annog dysgu ac ers iddi ddechrau yn yr ysgol, mae hi wedi cyflwyno systemau gwobrwyo arloesol newydd i ddathlu llwyddiant y disgyblion.

Mae Hollie yn drylwyr dros ben wrth baratoi gwersi ac mae’n defnyddio ei chreadigrwydd i ddod o hyd i adnoddau newydd ar gyfer dysgu, trefniadau ar gyfer gwaith cartref a gweithgarwch i gyfoethogi’r disgyblion a gwella eu sgiliau.

Mae Hollie yn athrawes naturiol, ac mae ei phoblogrwydd yn golygu ei bod yn cael ei dewis yn aml gan adrannau eraill i helpu ac roedd staff yn credu eu bod wedi ennill y wobr fawr ar ol iddi gael ei phenodi.