Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Janet yn byw a bod gweledigaeth ei hysgol ac mae’r weledigaeth honno’n cael ei rhannu gan bob disgybl, athro ac oedolyn, o fewn a’r tu allan i’r gymuned. Mae’n arwain o’r blaen, nid oddi uwch ac mae’n eithriadol o effeithiol wrth weld potensial ei staff. Mae ei hawch am wybodaeth yn creu’r cerrig sylfaen ar gyfer ysgol lwyddiannus ac mae deilliannau da’r myfyrwyr yn brawf o waith caled Janet.

Mae hi’n ymfalchio mewn arloesi a datrys problemau anodd trwy ofal, cydymdeimlad a gwneud yn siŵr mai’r disgybl sy’n dod yn gyntaf bob amser. Mae Janet yn effeithiol iawn wrth rymuso staff ac mae ei harweinyddiaeth yn amlwg drwy’r ysgol gyfan.