Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Lorraine wedi bod yn dysgu yn Ysgol Esgob Morgan am 16 o flynyddoedd ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr fel athrawes ers y funud pan gyrhaeddodd. Mae’n rhoi’r cyfle gorau posibl i bob plentyn i lwyddo ac mae’n creu awyrgylch arbennig ar gyfer ei dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth lle maent yn parchu ac yn annog ei gilydd ac yn dathlu eu llwyddiannau.

Mae lefel yr annibyniaeth yn ystafell ddosbarth Lorraine wedi rhagori ar ddisgwyliadau disgyblion sy’n gadael ysgol uwchradd, heb son am ysgol gynradd. Mae ymrwymiad, angerdd ac effaith Lorraine ar yr ysgol gyfan yn eithriadol ac roedd wedi ysbrydoli’r beirniaid.