Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae gan Louise ymagwedd unigryw plentyn-ganolog tuag at ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol ac emosiynol, sydd heb derfynau. Pan ddaw’n fater o ddiwallu anghenion unigol, mae’n ymdrechu i feithrin plant trwy gelf ac mae’n arloeswr mewn prosiect uchelgeisiol sy’n hybu hyder cymdeithasol trwy greadigrwydd.

Nid yw Louise byth yn fodlon ac mae’n parhau i annog llwyddiant i fynd gam ymhellach eto, gan helpu disgyblion i deimlo’n hyderus ym myd ehangach y gymuned. Mae gan Louise ffordd reddfol o hau hadau yng nghalonnau a meddyliau ei disgyblion, gan eu galluogi i ffynnu yn ogystal a thyfu.