Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Meryl Echeverry yn bennaeth ymroddedig gyda phersonoliaeth fyrlymus. Mae Meryl yn gweithio’n galed, gan roi cyfle i deuluoedd lleol i fanteisio ar amgylcheddau dysgu creadigol ac mae’n annog y disgyblion i fynegi eu hunain. Mae’n sicrhau bod dysgu dilys yn ganolog i’r cwricwlwm, gan alluogi plant i brofi prosiectau mentergarwch cyffrous. Mae ei chymhelliad a’i nodweddion positif yn cael eu trosglwyddo i’w staff wrth iddynt gael eu hannog i fentro ac i arloesi.

Mae Meryl yn uchel ei pharch ymhlith rhieni am iddi eu cynnwys ym mywyd yr ysgol. Mae’n arweinydd ysbrydoledig gyda gweledigaeth glir, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn natganiad cenhadaeth yr ysgol, ‘gyda’n gilydd mi wnawn gyflawni’r eithriadol’.