Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Natasha yn llawn brwdfrydedd ac egni ac mae hynny i’w weld yn ei haddysgu. Mae ei disgyblion yn mwynhau eu gwersi drama ac mae Natasha yn gweithio’n galed i gynnwys pawb, beth bynnag fo’u gallu.

Mae Natasha yn llawn bywyd ac ysbrydoliaeth, gan gymryd rhan mewn gweithgarwch allgyrsiol a dysgu canu offerynnau newydd gyda’i disgyblion. Mae ganddi sgiliau cyfathrebu rhagorol ac mae’n rhoi gwedd bositif ar bopeth, gan annog ei disgyblion i fod yn hyderus.

Mae Natasha yn athrawes ymroddgar ac ysbrydoledig, ac mae ei sgiliau cyfathrebu heb eu hail, a’i gwersi yw uchafbwynt yr wythnos i’w disgyblion.