Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Sarah yn athrawes arbennig iawn sydd wedi newid agwedd pawb yn yr ysgol tuag at y Gymraeg, gan roi cyfle i ddisgyblion i ddatblygu, ymarfer a gwerthfawrogi’r iaith.

Mae brwdfrydedd ac ymroddiad Sarah i ddatblygiad yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn dylanwadu ar bawb. Mae ei gwersi Cymraeg yn denu diddordeb y disgyblion ac mae’r tasgau gwaith cartref yn gwneud yn siŵr bod rhieni’n cael eu cynnwys, gan greu cysylltiad cryf rhwng yr ysgol a’r cartref.

Mae Sarah yn arweinydd naturiol ac mae’n ysbrydoliaeth i ddatblygiad y Gymraeg. Mae perchnogaeth o’r iaith a phopeth Cymreig yn amlwg ym mhob rhan o’r ysgol, diolch i’w gwaith caled hi.