Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Gwyliwch y seremoni Gwobrau byw yma

Gair am y gwobrau
Popeth y mae angen i chi ei wybod am Wobrau Prentisiaethau Cymru
Ymgeisiwch
Mae’r Ceisiadau ar gyfer y Gwobrau Prentisiaethau Cymru wedi cau.
Enillwyr a theilyngwyr
Cewch weld enillwyr a theilyngwyr blaenorol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Gair am y gwobrau

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu, a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau ledled Cymru.

Mae'r Rhaglen Brentisiaethau'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Trefnir y Gwobrau hyn gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Maent yn arddangos ac yn dathlu llwyddiant rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant, ynghyd â brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, dealltwriaeth o'r angen i wella sgiliau er lles economi Cymru ac ymrwymiad i wneud hynny.

Mae’r Gwobrau’n gyfle i unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u llwyddiant yn rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau.

Image

Apprenticeships logoEuropean Social Fund logo