Noddwyr
Cefnogi Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.
Noddwr pennaf
Openreach
Prif noddwr yng nghategorïau’r gwobrau
ACT Ltd
Noddwyr y categorïau
Academi Sgiliau Cymru
City & Guilds
Educ8
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
PeoplePlus
Agored Cymru
Noddwyr hysbysebion a’r cyfryngau cymdeithasol
Grŵp Llandrillo Menai
Cambrian Training
Os hoffech noddi Gwobrau Prentisiaethau Cymru, e-bostiwch Karen Smith Karen Smith yn Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru karen.smith@ntfw.org neu ffoniwch 029 2049 5861/ 07425 621709.
Defnyddir yr holl arian nawdd i wella Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Openreach
Dywedodd Connie Dixon, cyfarwyddwr partneriaethau Openreach yng Nghymru:
Rydym wrth ein bodd o gael cefnogi’r digwyddiad ardderchog hwn eleni eto a hoffem longyfarch pawb sydd yn y rownd derfynol am gyrraedd mor bell.
Mae prentisiaethau wedi bod yn rhan allweddol o strategaeth recriwtio Openreach erioed. Yn ogystal â dod ag egni, cyffro a brwdfrydedd i’n busnes, maen nhw’n dod â sgiliau newydd, profiadau newydd a syniadau newydd. Pob hwyl i bawb sydd yn y rownd derfynol.
Connie Dixon, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Openreach
ACT
Oherwydd ein maint, ein profiad a’n hygrededd fel prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, rydym yn gallu darparu prentisiaethau amrywiol mewn 30 o wahanol sectorau i fusnesau Cymru a’u gweithwyr. O bobl ifanc sy’n cychwyn ym myd gwaith i uwch-reolwyr a swyddogion gweithredol a phawb yn y canol, rydym yn credu'n angerddol mewn gwneud gwahaniaeth er lles bywydau pobl a chefnogi busnesau Cymru i uwchsgilio eu gweithlu.
Jayne McGill-Harris, Cyfarwyddwr Datblygu, ACT