Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Cyngor Ieuenctid Castell Nedd Port Talbot – Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot

Mae Cyngor Ieuenctid Castell Nedd Port Talbot yn hyrwyddo Hawliau Plant drwy rymuso pobl ifanc 11-25 oed i gael llais a dylanwadu ar newid ym mhob penderfyniad sy’n effeithio ar eu bywydau.

Nod cyffredinol y prosiect yw cynyddu a gwreiddio cyfranogiad pobl ifanc mewn cymunedau, strwythurau penderfynu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a’r nod penodol yw sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais a bod eu hawliau’n cael eu parchu.

Ymhlith llwyddiannau’r Cynghorau Ieuenctid mae helpu i sicrhau darpariaeth i bobl ifanc o’r gymuned LHDCT, maen nhw wedi llwyddo i sicrhau cyllid i bobl ifanc gael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ac wedi herio toriadau arfaethedig i gyllid trafnidiaeth i ysgolion ffydd ac ysgolion Cymraeg.

Roedd y beirniaid yn teimlo bod y prosiect hwn yn dangos enghreifftiau da o sut y gellid rhedeg Cyngor Ieuenctid a dangos llawer o newidiadau cadarnhaol.