Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Louise Coombs – Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd

Mae Louise wedi gweithio yn Grassroots ers naw mlynedd ac mae’n gweithio llawn amser i gefnogi pobl ifanc 16-25 oed sydd ag amrywiaeth eang o anghenion cymhleth.

Mae Louise yn neilltuo ei hamser i’r bobl ifanc gan weithio’n galed ac yn effeithlon i sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu bodloni a’u barn yn cael ei chynrychioli’n llawn. Mae Louise wedi chwarae rhan fawr yn sbarduno llawer o raglenni gwaith yn eu blaen, yn benodol y Grŵp Rhieni Ifanc ble sylwodd hi bod angen cynnig cymorth amrywiol mewn partneriaeth gydag Ymwelwyr Iechyd, Bydwragedd ac eraill.

Mae’r bobl ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect yn gwerthfawrogi’r gwaith mae hi’n ei wneud ac yn aml hi yw’r person cyntaf y byddan nhw’n chwilio amdani wrth gyrraedd.

Roedd y beirniaid yn teimlo bod Louise yn troedio’r ail filltir gyda’r bobl ifanc, ac yn aml yn gwneud gwaith y tu hwnt i’w dyletswyddau ‘gwaith ieuenctid’ arferol. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau ei bod yn cadw cysylltiad rheolaidd gyda phobl ifanc yn y ddalfa er mwyn iddyn nhw wybod y byddai person cyfeillgar a chefnogol ar gael i siarad â nhw wrth gael eu rhyddhau.