Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Camfanteisio'n rhywiol ar blant: Grŵp Llywio – YMCA Caerdydd

Mae'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi cael profiad o gam-fanteisio rhywiol ar blant yn y gorffennol. Nod y prosiect yw casglu eu barn am y gwasanaethau a'u cefnogodd er mwyn iddynt lywio unrhyw ddatblygiadau i wasanaethau yn uniongyrchol. Mae'r prosiect yn darparu man diogel i bobl ifanc siarad yn rhydd ac yn agored am eu profiadau ac yn eu grymuso i gael llais sy’n cyfrannu at newid systemau cyfredol. Maen nhw’n gallu siarad yn rhydd am yr hyn a weithiodd, yr hyn na wnaeth, a'r hyn y gellid bod wedi'i gynnig ond na wnaed.

Bydd y bobl ifanc sy'n rhan o'r prosiect yn datblygu darn creadigol i addysgu pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol am ymwybyddiaeth o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant.

Roedd y beirniaid o'r farn bod hwn yn gyfraniad unigryw ac arbennig i hyrwyddo hawliau pobl ifanc sy'n agored i niwed. Dangosodd y prosiect ymrwymiad i fecanweithiau newid creadigol ac effeithiol i wella bywydau pobl ifanc nawr ac yn y dyfodol. 

Fideo enwebeion