Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Clwb Coginio Cook It! - Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion

Mae clwb coginio Cook It! yn glwb ar ôl ysgol sydd wedi'i dargedu at bobl ifanc sy'n defnyddio ymyriadau gwaith ieuenctid yn ystod y diwrnod ysgol. Mae'r prosiect yn gyfle i wneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd hwyliog a diogel gan ddysgu am fanteision bwyta'n iach ar yr un pryd. 

Mae'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn dysgu coginio a chynllunio prydau bwyd iach a chytbwys o fewn cyllideb benodol. Maen nhw hefyd yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy megis dilyn cyfarwyddiadau, gwrando a chyfathrebu, gwaith tîm a sgiliau trefnu. 

Roedd y beirniaid o'r farn bod y prosiect yn cynnig lle hwyliog a chynhwysol i bobl ifanc gael hyfforddiant achrededig a dysgu am fwyta'n iach mewn lleoliad anffurfiol. Llwyddodd y grŵp hwn, sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc, i ymgysylltu’n helaeth iawn â’r gymuned mewn lleoliad gwledig.  

Fideo enwebeion