Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Grŵp rhieni ifanc - Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen

Nod y grŵp rhieni ifanc yw atal arwahanrwydd cymdeithasol trwy ddarparu amgylchedd diogel i rieni iau sy'n agored i niwed fel y gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon sy'n addas ar gyfer eu hoedran. 

Trwy ddefnyddio gwaith ieuenctid, mae'r prosiect yn annog rhieni ifanc, boed yn ddynion neu’n fenywod, i ddatblygu sgiliau rhianta trwy wneud gweithgareddau a chwarae gyda'u plant. Yn ystod eu sesiwn wythnosol, maen nhw hefyd yn dysgu coginio pryd o fwyd iach, gwneud ffrindiau a datblygu rhwydweithiau cefnogaeth.  

Mae’r bobl ifanc sy'n rhan o'r prosiect yn cael eu hannog i ddatblygu perthynas well gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn cefnogi eu hanghenion yn fwy eang. Drwy ymgysylltu â'r prosiect hwn, mae'r rhieni ifanc wedi gwella eu hunan-barch a'u lles meddyliol ac wedi datblygu strategaethau ymdopi gwell. 

Roedd y beirniaid o'r farn bod y prosiect hwn wedi gwneud cyfraniad sylweddol i iechyd a lles rhieni ifanc mewn amgylchedd diogel a chynhwysol. 

Fideo enwebeion