Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Open 4 Youth - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyflwynwyd y prosiect Open 4 Youth mewn ymateb i bryderon a godwyd gan bobl ifanc ynghylch diffyg mynediad at weithgareddau hamdden yn yr ardal. Mae Canolfan Chwaraeon Glynebwy bellach yn agor ei drysau i bobl ifanc rhwng 6 a 9 pm un dydd Sadwrn y mis. Ar gyfartaledd, mae dros 300 o bobl ifanc yn mynychu pob sesiwn ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau corfforol mewn amgylchedd diogel a chefnogol gyda chymorth gweithwyr ieuenctid. 

Mae llawer o'r bobl ifanc sy'n mynychu yn newydd i waith ieuenctid. Mae’r sesiynau wedi bod yn gyfle gwych i'w cyfeirio at fentrau eraill a allai fod o fudd neu o ddiddordeb iddynt.  

Mae'r prosiect wedi cael ei groesawu gan rieni ac mae'n uchel ei barch ymhlith y bobl ifanc eu hunain sy'n gwerthfawrogi'r cyfle i fynd allan, cyfarfod â ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog gan wella eu hiechyd a lles corfforol ar yr un pryd.

Roedd y beirniaid o'r farn bod y prosiect hwn yn enghraifft wych o ddarpariaeth gwaith ieuenctid cynaliadwy, mynediad agored sydd wedi cael cryn lwyddiant o ran ymgysylltu â phobl ifanc. 

Nominees video