Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Prosiect 2050! - Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion

Nod y prosiect oedd annog pobl ifanc yng Ngheredigion i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol ac archwilio traddodiadau treftadaeth a diwylliannol lleol ar yr un pryd.

Roedd 45 o bobl ifanc yn cymryd rhan o bob rhan o'r sir ac roedd cludiant ar gael i'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd mwy gwledig. Gan weithio mewn partneriaeth ag artist graffiti lleol, cymerodd y bobl ifanc ran mewn gwaith ymchwil lleol. Yna, buont yn dylunio a chreu tri murlun oedd yn cynrychioli gwahanol agweddau ar hanes Ceredigion. 

Roedd y prosiect yn help i fynd i'r afael â rhai o’r rhwystrau a’r stigma sy’n atal pobl ifanc rhag defnyddio’r Gymraeg.  
  
Roedd y beirniaid o'r farn bod y prosiect hwn yn ddull arloesol o ymgysylltu oedd yn annog pobl ifanc i archwilio eu treftadaeth a hybu'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth ar yr un pryd.

Fideo enwebeion