Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Sarah Powell – uwch swyddog cyfranogiad a hawliau plant – Cyngor Sir Gâr

Dechreuodd Sarah ymwneud â'r gwasanaethau ieuenctid dros 25 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd y Cyngor Ieuenctid cyntaf yng Nghymru! 

Ers hynny, mae ei hymrwymiad i roi llais i bobl ifanc wedi helpu llawer o bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio i deimlo grym, adennill hyder a chyrraedd eu llawn botensial.  

Mae Sarah yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt a’u bod yn ymwneud â gwneud penderfyniadau a'r broses ddemocrataidd yn eu hardal nhw. Mae hi wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yn ymgysylltu â phobl ifanc sydd wedi profi anawsterau eu hunain, gan eu hysgogi i ddefnyddio eu profiadau i helpu eu cyfoedion.    

Roedd y beirniaid o'r farn bod ymrwymiad hirsefydlog Sarah i sicrhau bod pobl yn clywed llais y bobl ifanc wedi cael effaith enfawr ar fywydau pobl ifanc yn Sir Gâr.    

Fideo enwebeion