SEFYLL gyda merched – cynllun STAND with Girls International UK
Teilyngwr
Mae'r prosiect SEFYLL gyda merched yn rhan o raglen genedlaethol i helpu i sicrhau bod merched yn deall eu hawliau ac yn gallu dylanwadau ac ysgogi newid yn eu cymunedau lleol.
Mae merched sy'n ymwneud â'r prosiect yn ymgysylltu â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn lleol ac yn genedlaethol i rannu eu hymgyrchoedd ar hawliau merched. Mae'r prosiect yn helpu cyfranogwyr i archwilio themâu allweddol gan gynnwys mynd i'r afael â stereoteipiau, datblygu pendantrwydd, eiriolaeth ac ymgyrchu.
Mae'r prosiect wedi helpu i wneud hawliau merched yn fater o bwysigrwydd yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn sicrhau bod lleisiau merched yn cael eu hystyried wrth gynllunio gwasanaethau.
Roedd llwyddiant y prosiect hwn o ran codi ymwybyddiaeth o hawliau merched ar lefel leol a llwyddiant y cyfranogwyr i ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn lleol ac yn genedlaethol wedi creu argraff ar y beirniaid.