Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Tanyard Youth Project Ltd - Penfro

Mae Prosiect Ieuenctid Tanyard yn darparu sesiwn galw heibio sy’n agored i bawb ym Mhenfro chwe noson yr wythnos, gan roi lle diogel i bobl ifanc gymdeithasu. Mae'r prosiect yn helpu pobl ifanc i fagu hunanhyder drwy ymwneud â'r celfyddydau, yn enwedig cerddoriaeth.
 
Mae perthynas y gweithwyr ieuenctid sy'n cymryd rhan yn y prosiect â’r bobl ifanc yn un o ymddiriedaeth a chefnogaeth, ac mae’r bobl ifanc yn cael cyfle i ddysgu canu, cyfansoddi, recordio a golygu traciau sain ynghyd â gweithgareddau eraill. 

Mae'r prosiect hefyd yn helpu pobl ifanc ag anghenion cymhleth i fynd i'r afael â'r materion hyn drwy therapi cerddoriaeth.

Yn ogystal â chynnig rhywle i bobl ifanc fynd i gael hwyl a gwneud rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau, mae’r prosiect hefyd yn rhoi cyfle iddynt ddilyn hyfforddiant achrededig i gryfhau eu CV a chynyddu eu siawns o lwyddo yn y farchnad swyddi leol.

Roedd y beirniaid o'r farn bod y prosiect hwn wedi dangos rhagoriaeth wrth weithio gyda nifer o asiantaethau, gan roi cyfle i bobl ifanc ddod o hyd i'w llais a meithrin eu talentau creadigol mewn lle cefnogol a diogel. 

Fideo enwebeion