Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Guys, Gals and Non Binary Pals (#GGNP) – Gwasanaeth Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili

Dyma brosiect yng Ngwasanaethau Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n darparu gwybodaeth, cymorth ac eiriolaeth am ddim a chyfrinachol i bobl ifanc 11 – 25 oed LGBTQ+.

Rhoddir amgylchedd diogel i bobl ifanc fynegi eu hunain a datblygu eu hunaniaeth unigol, wrth gael cyfle i ymgysylltu a chymdeithasu â phobl ifanc eraill sy'n rhannu profiadau a heriau tebyg.

Gallai'r beirniaid weld bod y prosiect wedi cael effaith fawr, gan ei fod wedi codi hyder pobl ifanc i’r graddau bod aelodau'r grŵp yn eistedd ar Fforwm Ieuenctid Caerffili a Senedd Ieuenctid Cymru. Roedd hefyd yn wych gweld bod rhai o'r aelodau wedi dod yn fentoriaid cymheiriaid ac wedi cyflwyno gweithdai i bobl ifanc mewn canolfannau ieuenctid ledled y sir.