Neidio i'r prif gynnwy

Enillwyr

Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent (BGYS)

Mae BGYS cyflogi tua 50 o staff (yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau myfyrwyr), i gefnogi pobl ifanc drwy gydol y flwyddyn, yn ystod y dydd, gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Mae ymrwymiad i gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus i fyfyrwyr, staff a gwirfoddolwyr, sy'n cynnwys eu cynorthwyo i ymgymryd â chymwysterau gwaith ieuenctid a hyfforddiant sy'n benodol i rôl. Mae'r staff a'r gwirfoddolwyr hefyd yn cael cyfleoedd i ymgymryd â lleoliadau ym mhob prosiect, mynediad at oruchwylwyr profiadol a rhaglen gynefino groesawgar.

Mae BGYS yn cynnwys panel pobl ifanc wrth recriwtio staff i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac yn cynnig cyfle i bobl ifanc hyfforddi fel Gweithwyr Ieuenctid drwy brosiect Llysgennad Ifanc.

Canmolodd y beirniaid BGYS am ddangos ymrwymiad llawn i uwchsgilio a datblygu eu gweithlu i sicrhau ei fod yn addas at y diben o ddiwallu anghenion pobl ifanc.