Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Josie Eddy - Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf (YEPS)

Mae Josie yn fam ifanc ac yn wirfoddolwr YEPS sy'n weithiwr ieuenctid brwd.

Mae wedi defnyddio lleoliad YEPS i helpu i redeg clwb ieuenctid a sesiynau galw heibio ôl-16 yn Nhreorci. Chwaraeodd ei pherthynas â'r bobl ifanc leol ran hanfodol i sefydlu YEPS yn yr ardal ac yn llwyddiant y prosiectau hyn. Trefnodd barti Nadolig cymunedol gwych hefyd, gyda dros 200 o bobl yn bresennol.

Wrth wirfoddoli ar gyfer YEPS, cwblhaodd Josie Gwrs Gwaith Ieuenctid Lefel 2 a disgwylir iddi gwblhau ei Lefel 3 cyn hir, gan ddod â hi'n nes at ei breuddwyd o fod yn weithiwr ieuenctid cymwysedig.

Dywedodd y beirniaid fod Josie wedi bod yn wirfoddolwr ymroddedig ac yn ased i'w chlwb, gan ddangos ei bod yn enghraifft wych o weithio'n dda gyda chymuned leol.