Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwyr

Platfformm4YP – Platfform Dros Iechyd Meddwl a Newid Cymdeithasol

Mae'r elusen hon wedi datblygu tîm gwaith ieuenctid sy'n arbenigo mewn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc sy'n eu galluogi i gymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau wrth reoli eu hiechyd meddwl a'u lles.

Maent yn darparu cyfleoedd gwaith ieuenctid sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles mewn partneriaethau ledled y de ac maent wedi ymgysylltu â thros fil o bobl ifanc drwy waith grŵp, 1:1 a lleoliadau hyfforddiant, gan ddarparu rhaglenni datblygu lles personol a mentora cyfoedion.

Gwnaed argraff dda ar y beirniaid wrth weld faint o bobl ifanc sydd wedi elwa o'r prosiect a hefyd pa mor dda y mae arferion gwaith ieuenctid wedi'u cynnwys yn holl ethos y prosiect.