Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwyr

Prosiect Ieuenctid Aspie Roots – Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd

Aspie Roots' yw'r unig grŵp yn Ne Cymru sy'n gweithio'n benodol gyda phobl ifanc â syndrom Asperger. Maent yn mynychu sesiynau wythnosol sy'n dod â phobl ifanc at ei gilydd, gan ddarparu lle diogel i gymdeithasu a thyfu.

Drwy gymdeithasu mae'r bobl ifanc yn magu hyder, yn adeiladu cyfalaf cymdeithasol, a thrwy sesiynau wedi'u targedu sy'n aml yn canolbwyntio ar sgiliau bywyd, megis coginio, siopa a chyllidebu, gall y bobl ifanc ddysgu sgiliau a fydd yn eu helpu i fyw bywydau iach ac annibynnol.

Teimlai'r beirniaid fod y prosiect hwn yn enghraifft wych o brosiect gwaith ieuenctid sy'n gynhwysol ac yn hygyrch, gan roi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu gallu i gyfathrebu a chyfrannu at eu cymuned.