Neidio i'r prif gynnwy

Finalist

Prosiect Cardiau Post a Phodlediadau Ieuenctid Tanyard

Mae'r prosiect hwn yn rhoi hyfforddiant mewn technolegau digidol i bobl ifanc ac yn eu cysylltu â'u cymuned a'u treftadaeth yn Sir Benfro.

Maent yn defnyddio cyfryngau digidol i hyrwyddo treftadaeth naturiol, ddiwylliannol ac adeiledig gyfoethog ac amrywiol Sir Benfro i gynulleidfa fyd-eang, wrth iddynt adrodd straeon Sir Benfro drwy bodlediadau, ffotograffiaeth, ffilm, celf, ar-lein a chyfryngau cymdeithasol. Nod y prosiect yn y pen draw yw ysgogi twristiaeth a chreu swyddi cynaliadwy i bobl ifanc yn lleol.

Mae'r prosiect yn pontio'r bwlch rhwng grwpiau treftadaeth, sy’n cael eu rhedeg fel arfer gan bobl hŷn sydd â sgiliau digidol cyfyngedig os o gwbl, a phobl ifanc sydd â'r sgiliau i helpu i ddod â threftadaeth leol yn fyw i gynulleidfa fyd-eang.

Roedd y beirniaid o'r farn bod y prosiect yn gyfle gwych i bobl ifanc ennill sgiliau digidol trosglwyddadwy, ac addysgu eu hunain am dreftadaeth leol a rhannu hyn â chymunedau ehangach.