Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwyr

Rhys Rogers - Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, Rhondda Cynon Taf

Mae Rhys wedi bod yn allweddol wrth godi proffil y Gwasanaeth o fewn ardal Tonypandy. Mae'n gweithio gyda phobl ifanc sy'n agored i niwed ar sail un-i-un i’w cryfhau ac mae'n rhedeg rhaglen ôl-ysgol, gan gynnig cyfleoedd amrywiol gan gynnwys prosiectau celf, clwb gwaith cartref a chwaraeon. Mae'r rhaglen yn denu disgyblion o gefndiroedd difreintiedig nad ydynt fel arfer yn cael mynediad at gyfleoedd o'r fath.

Un o'i lwyddiannau allweddol oedd pan sefydlwyd un o glybiau ieuenctid y Gwasanaeth mewn cymuned â chyfraddau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bu’n gweithio gyda staff arbenigol i greu lle croesawgar diogel i bobl ifanc 11 i 25 oed, gan ddarparu mynediad at gyngor ac arweiniad, yn ogystal â gweithgareddau diddorol. Aeth Rhys allan o'i ffordd i ymgynghori â'r bobl ifanc am eu hanghenion a gwthiodd i gynnig y rhaglen lle'r oeddent am ei chael. O ganlyniad, roedd llawer mwy o bobl ifanc hŷn yn ymgysylltu ac yn osgoi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r beirniaid o'r farn bod Rob yn enghraifft wych o weithiwr ieuenctid ymroddedig sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r ysgol a'r gymuned i ehangu gorwelion pobl ifanc drwy'r cyfleoedd y mae'n eu darparu ar eu cyfer.