Neidio i'r prif gynnwy

Winner

Shahab Miah - Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru Ethnic (EYST)

Mae Shahab wedi gweithio gyda phobl ifanc ers 2005 - gan symud yr holl ffordd o fod yn brentis i fod yn uwch weithiwr ieuenctid. Mae'n rheoli prosiect 'Perthyn' EYST, sy’n cynnig rhaglen o weithgareddau hwyliog i bobl ifanc 10-18 oed o gefndiroedd duon a lleiafrifoedd ethnig (BAME) er mwyn iddynt deimlo eu bod yn perthyn yng Nghymru.

Mae Shahab yn defnyddio ei gefndir fel Mwslim Bangladeshaidd Prydeinig i sicrhau bod pobl ifanc BAME yn gallu manteisio ar gyfleoedd nad oedd ganddo pan oedd yn iau. Nid yw'n osgoi sgyrsiau heriol a phynciau dadleuol, gan ddefnyddio dulliau diwylliannol sensitif a chynhwysol o addysgu a grymuso'r bobl ifanc y mae'n gweithio gyda nhw. Mae Shahab yn cymryd rhan ym mhob elfen o’r gwaith, o goginio prydau rhyngwladol a rhedeg sesiynau galw heibio i bobl ifanc i lunio dyfodol y ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn EYST.

Dywedodd person ifanc yn EYST fod Shahab "yn fy ysbrydoli drwy'r amser i gredu y gallaf wneud unrhyw beth... ac rwy’ am fod yr un fath ag e. Mae bob amser yn helpu'r gymuned sut bynnag y gall."

Gwnaed argraff fawr ar y beirniaid a nododd fod Shahab yn amlwg yn weithiwr ieuenctid uchel ei barch ac yn fodel ymddygiad sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl ifanc sy'n wynebu adfyd.