Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

 Boys’ and Girls’ Clubs of Wales / Swansea MAD / Deryn

Crëwyd prosiect Coda dy Lais, a arweinir gan bobl ifanc, i gefnogi pobl ifanc i ddysgu am wleidyddiaeth a chodi eu llais yn barod ar gyfer Etholiadau Senedd 2021. Roedd y prosiect yn bartneriaeth rhwng BGC Cymru, Swansea MAD a Deryn, a ariannwyd gan Gronfa Democratiaeth y DU. Ei nod oedd codi lleisiau pobl ifanc a gwella eu dealltwriaeth o'u rôl mewn democratiaeth yng Nghymru, gan gynnwys trwy gofrestru i bleidleisio a chymryd rhan yn etholiad Senedd 2021 (lle roedd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf).

Gweithiodd y prosiect gyda phobl ifanc i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu a'u grymuso er mwyn iddynt allu cofrestru i bleidleisio a gwneud gwahaniaeth i'w bywydau eu hunain. Roedd gweithgareddau'r prosiect yn cynnwys creu gwefan (www.raiseyourvoice.wales /www.codadylais.cymru), cyfryngau cymdeithasol dan arweiniad pobl ifanc, hystingau rhithwir ieuenctid a gynhaliwyd gan Steffan Powell o'r BBC, cyfleoedd comisiwn â thâl i bobl ifanc a digwyddiad rhithwir Caffi Braint penodol yn trafod cynrychiolaeth yng ngwleidyddiaeth Cymru ac ymgysylltu â phobl ifanc o liw.

Cafodd y prosiect effaith sylweddol ac amlwg ar weithwyr ieuenctid, y mudiadau a'r bobl ifanc a oedd yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau 2021, gan helpu i gryfhau lleisiau pobl ifanc yng Nghymru yn ogystal â'u haddysgu am Etholiad y Senedd 2021.

Roedd y panel beirniadu yn chwilio am dystiolaeth o ragoriaeth wrth weithio gydag ystod eang o bartneriaid, gydag effaith ar lefel genedlaethol. Teimlai'r beirniaid fod y gwaith anhygoel a oedd yn gysylltiedig â'r prosiect hwn yn gosod yr enwebiad hwn ar wahân i weddill y maes, yn enwedig o ran cyfranogiad pobl ifanc drwyddi draw a'r profiadau cadarnhaol a grëwyd gyda'r rhain yn cael eu hadlewyrchu yn nhystiolaeth y bobl ifanc.