Neidio i'r prif gynnwy

Cyd-enillydd

Conway Hawkins, Wick Youth Club

Arweinydd cymunedol yn y Wig, sef pentref gwledig ym Mro Morgannwg, yw Conway. Bu'n rhan o'r gwaith o sefydlu Clwb Ieuenctid y Wig yn glwb gwirfoddol yn 1998, ac mae'r clwb wedi bod yn ffynnu o dan ei arweiniad ers mwy nag 20 mlynedd. Ei nod oedd darparu cymorth i bobl ifanc sy'n byw mewn pentrefi gwledig Bro Morgannwg, lle mae opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yn brin, ac nad oes amrywiaeth o weithgareddau ar gael i bobl ifanc. Grŵp o bobl ifanc fu'n gyfrifol am enwebu Conway ar gyfer y wobr hon, am eu bod yn credu'n gryf ei fod yn haeddu cydnabyddiaeth am ei gyfraniad rhagorol i'r sector gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Mae Conway yn helpu pobl ifanc i redeg nifer o'r gweithgareddau eu hunain ac yn eu hannog i weithredu'r clwb mewn modd creadigol ac uchelgeisiol – gan sicrhau bod gan bawb rôl i'w chwarae. Mae'n annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y gymuned ehangach, ac mae wedi cefnogi aelodau o'r clwb ieuenctid i roi help llaw mewn digwyddiadau megis ffair y pentref a thwmpath dawns.

Yng ngeiriau un o'r bobl ifanc, mae rhywbeth cadarnhaol ganddo i'w ddweud bob amser am y pethau y maent yn eu gwneud, ac mae'n rhoi cyngor da bob amser hefyd os aiff pethau o chwith. O ganlyniad i frwdfrydedd hirdymor Conway, mae bellach yn ysbrydoli plant y bobl a fu'n mynychu'r clwb pan aeth ati gyntaf i wirfoddoli yno!

Gwnaeth ymroddiad a dyfalbarhad Conway argraff fawr ar y panel dyfarnu. Roedd y beirniaid hefyd o'r farn fod ei ffordd o ysbrydoli pobl ifanc a chanolbwyntio ar eu helpu i feithrin cysylltiadau â'u cymunedau lleol yn werthfawr iawn, gan sicrhau effaith hirdymor sylweddol.