Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Life in Lockdown Photography Competition, Pembrokeshire Youth

Datblygwyd y gystadleuaeth ffotograffiaeth ‘Bywyd yn ystod y Cyfnod Cloi yng Nghymru’ gan dîm Allgymorth Ieuenctid Sir Benfro fel modd o ymgysylltu ymhellach â phobl ifanc yn ystod y pandemig. Ei nod cychwynnol oedd herio Pobl Ifanc Sir Benfro i ddefnyddio’r rheol ‘un math o ymarfer corff y dydd’ i fynd allan a chadw cofnod o'u bywydau mewn modd creadigol yn ystod y cyfnod cloi.

Cynigiodd y prosiect lwyfan i gyfranogwyr fynegi eu hunain yn ystod cyfnod digynsail, ynghyd â'r cyfle i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau ar ffurf talebau Amazon ac i gael eu lluniau wedi'u cyhoeddi yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol.

Yn dilyn cyfarfod â Gwasanaethau Ieuenctid yr Awdurdod Lleol cyfagos, cynigiodd Ieuenctid Sir Benfro rannu fformat a deunyddiau marchnata 'Bywyd yn ystod y Cyfnod Cloi yng Nghymru' fel y gellid rhoi'r prosiect ar waith ledled Cymru, gan gynnig mwy o fewnwelediad i fywydau pobl ifanc ein cenedl yn ystod y cyfnod eithriadol o heriol hwn. Yn dilyn hynny, estynnwyd y prosiect ar draws sawl ardal awdurdod lleol arall. Yn Sir Benfro, cynhaliwyd y prosiect am 11 rownd, gan dderbyn 240 o gyflwyniadau, gyda gwaith pobl ifanc yn cael ei gyhoeddi'n lleol ac yn genedlaethol.

Cafodd yr enghraifft hon o sut y cafodd syniad syml, a gafodd ei roi ar waith yn dda, effaith mor enfawr ar fywydau llawer o bobl ifanc argraff dda ar y panel beirniadu.  Disgleiriodd y lefelau uchel o angerdd a brwdfrydedd dros y prosiect trwy'r enwebiad, yn ogystal â'r effaith amlwg ar les.