Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

GoodVibes, YMCA Swansea

Grŵp ieuenctid LGBTQ+ cynhwysol yw GoodVibes, sy'n cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae'n darparu man diogel sy'n lleihau teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd. Gall pobl ifanc adeiladu cyfeillgarwch cyfoedion o fewn cymuned fel eu bod yn perthyn, yn cyfrannu ac yn ffynnu. Mae'n grŵp lle gall pobl ifanc gael eu hamgylchynu gan unigolion tebyg mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo parchu dewisiadau pobl eraill, dinasyddiaeth a hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae GoodVibes yn rhoi hyder i bobl ifanc archwilio eu hunaniaeth eu hunain o amgylch pobl sydd wir yn deall ac yn poeni.  Mae pobl ifanc LGBTQ+ yn fwy tebygol o wynebu bwlio, gwahaniaethu ac arwahanrwydd cymdeithasol, ac yn eu tro maent yn fwy tebygol o ddioddef o iselder, pryder a hunan-niweidio. Mae GoodVibes yn arfogi pobl ifanc gyda'r offer sydd eu hangen arnynt i feddu ar ddealltwriaeth ac  agweddau ac ymddygiadau cadarnhaol ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae GoodVibes hefyd yn hynod weithgar yn y gymuned ac yn angerddol dros gael llais ar gyfer y gymuned LGBTQ+.

Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a ddarperir bod pobl ifanc sy'n mynychu GoodVibes yn teimlo mai dyma eu lle diogel, eu teulu oddi cartref ac mae llawer o bobl ifanc yn dibynnu ar y grŵp fel rhywbeth sy'n ganolog i'w bywydau a'u hunaniaeth. Disgrifiodd y panel beirniadu GoodVibes fel prosiect gwych sy'n cael effaith enfawr ar ei bobl ifanc a'u cymunedau. Roeddent yn teimlo eu bod yn dangos rhagoriaeth yn glir wrth sicrhau bod cyfleoedd gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol.