Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Powys County Council Youth Service - Detached Youth Work Team and Youth Homeless Coordinator

Mae Tîm Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig a Chydgysylltydd Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Powys yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy'n ddigartref neu sy'n byw mewn llety anaddas, a'r rheini nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

Mae gwaith amlasiantaethol yn hanfodol i'r ffordd y mae'r tîm yn gweithio. Mae'r tîm yn arfer dull gwaith ieuenctid er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc yn effeithiol, gan weithredu fel catalydd i ddod â sefydliadau ac asiantaethau at ei gilydd er mwyn darparu cymorth gofalgar sy'n canolbwyntio ar unigolion i bobl ifanc â rhai o'r amgylchiadau personol mwyaf cymhleth y gellir eu dychmygu. Mae un o Uwch-reolwyr Tai Powys wedi disgrifio'r gwasanaeth fel y glud sy'n dal gwasanaethau wrth ei gilydd, gyda'r staff bob amser yn mynd cam ymhellach i sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel ac yn cael y cyfleoedd gorau sydd ar gael.

Mae Gweithwyr Ieuenctid Datgysylltiedig yn cydgysylltu amrywiaeth o sefydliadau megis gwasanaethau Tai, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)/Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT), Heddluoedd, ysbytai, a Shelter Cymru, gan gefnogi pobl ifanc sy'n byw bywydau cymhleth mewn argyfyngau yn aml. Wrth wneud hynny, mae'r tîm yn llwyddo i hyrwyddo gwaith ieuenctid fel ffordd effeithiol a llwyddiannus o ymgysylltu â phobl ifanc a gweithio gyda nhw. Ystyrir bod gwaith ieuenctid a'r Gwasanaeth Ieuenctid yn rhan annatod o'r cymorth y mae'r sir yn ei roi i bobl ifanc oherwydd y gwaith partneriaeth ac amlasiantaeth a wneir gan y tîm.

Tynnodd y panel dyfarnu sylw at lwyddiant y tîm o ran hyrwyddo gwaith ieuenctid gyda phartneriaid yn lleol ac yn genedlaethol. Mae'n enghraifft wych o'r ffordd y gall cydweithio ac arfer dulliau gwaith ieuenctid fel sail ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc ac ymgysylltu â nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chynaliadwy mewn bywydau pobl ifanc.